2 Thessalonians 3
Cais am weddi
1Yn olaf, ffrindiau, gweddïwch droson ni. Gweddïwch y bydd neges yr Arglwydd yn mynd ar led yn gyflym, ac yn cael ei derbyn yn frwd fel y cafodd gynnoch chi. 2A gweddïwch hefyd y byddwn ni'n cael ein hamddiffyn rhag pobl gas a drwg. Dydy pawb ddim yn dod i gredu'r neges! 3Ond mae'r Arglwydd yn ffyddlon; bydd e'n rhoi nerth i chi ac yn eich cadw chi'n ddiogel rhag yr un drwg. 4Ac mae'r Arglwydd yn ein gwneud ni'n hyderus eich bod chi'n gwneud beth ddwedon ni wrthoch chi, ac y gwnewch chi ddal ati i wneud hynny. 5Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn eich arwain chi i garu Duw a dal ati i ymddiried yn llwyr ynddo fe, y Meseia.Rhybudd rhag bod yn ddiog
6Nawr, dŷn ni'n rhoi gorchymyn i chi, ffrindiau annwyl (ac mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd Iesu Grist i wneud hynny): Cadwch draw oddi wrth unrhyw Gristion sy'n gwrthod gweithio a ddim yn byw fel y dysgon ni i chi fyw. 7Dilynwch ein hesiampl ni. Fuon ni ddim yn ddiog pan oedden ni gyda chi. 8Doedden ni ddim yn cymryd mantais o bobl eraill drwy fwyta yn eu cartrefi nhw heb dalu am ein lle. Yn hollol fel arall! Roedden ni'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni. 9Er bod gynnon ni hawl i ddisgwyl help gynnoch chi, roedden ni am roi esiampl i chi a bod yn batrwm i chi ei ddilyn. 10“Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta” – dyna ddwedon ni pan oedden ni gyda chi. 11Ond dŷn ni wedi clywed bod rhai ohonoch chi'n diogi. Pobl yn treulio'u hamser yn busnesa yn lle gweithio. 12Mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd i ddweud wrth bobl felly, a phwyso arnyn nhw i fyw fel y dylen nhw a dechrau ennill eu bara menyn. 13Ffrindiau annwyl, peidiwch byth â blino gwneud daioni. 14Cadwch lygad ar unrhyw un sy'n gwrthod gwneud beth dŷn ni'n ei ddweud yn y llythyr yma. Cadwch draw oddi wrtho, er mwyn codi cywilydd arno. 15Ond peidiwch ei drin fel gelyn – dim ond ei rybuddio fel brawd a'i helpu i newid.Cyfarchion i gloi
16Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd sy'n rhoi heddwch yn gwneud i chi brofi ei heddwch ym mhob sefyllfa. Bydded yr Arglwydd yn agos at bob un ohonoch chi. 17Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun – PAUL. Dyma sy'n dangos yn fy holl lythyrau mai fi sy'n ysgrifennu. Dyma fy llawysgrifen i. 18Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist.
Copyright information for
CYM