Acts 21
Ymlaen i Jerwsalem
1Ar ôl llwyddo i dynnu'n hunain i ffwrdd oddi wrthyn nhw dyma ni'n dechrau'r fordaith a hwylio'n syth i ynys Cos. Cyrraedd Rhodos y diwrnod wedyn, ac yna mynd ymlaen i Patara. 2Newid llong yno, a hwylio ymlaen ar long oedd yn mynd i dalaith Phenicia yn Syria. 3Cael cipolwg ar ynys Cyprus wrth hwylio i'r de o'r ynys, ac yna mynd ymlaen i Syria. Dyma ni'n glanio yn Tyrus lle roedd y llong yn dadlwytho ei chargo. 4Daethon ni o hyd i'r Cristnogion yno, ac aros gyda nhw am wythnos. Roedden nhw'n pwyso ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem o achos beth roedden nhw'n ei broffwydo drwy'r Ysbryd Glân. 5Ond mynd ymlaen ar ein taith wnaethon ni pan ddaeth hi'n amser i ni symud. Daethon nhw i gyd i lawr i'r traeth gyda ni i ffarwelio – hyd yn oed y gwragedd a'r plant. Yno dyma ni i gyd yn mynd ar ein gliniau i weddïo. 6Ar ôl ffarwelio â'n gilydd aethon ni ar y llong a dyma nhw'n mynd adre. 7Dyma ni'n hwylio ymlaen o Tyrus ac yn glanio wedyn yn Ptolemais. Rhoddodd y Cristnogion yno groeso i ni, a chawson dreulio'r diwrnod gyda nhw. 8A'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartre Philip yr efengylydd (un o'r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i'r gweddwon). 9Roedd gan Philip bedair o ferched dibriod oedd yn proffwydo. 10Roedden ni wedi bod yno am rai dyddiau, a dyma broffwyd o'r enw Agabus yn dod yno o Jwdea. 11Pan ddaeth, cymerodd felt Paul oddi arno a rhwymo ei ddwylo a'i draed ei hun gyda hi. Yna meddai, “Dyma mae'r Ysbryd Glân yn ei ddweud, ‘Bydd arweinwyr yr Iddewon yn Jerwsalem yn rhwymo'r sawl sydd biau'r belt yma, ac yna'n ei drosglwyddo i'r Rhufeiniaid.’” 12Ar ôl clywed hyn, dyma ni a'r Cristnogion lleol yn Cesarea yn dechrau pledio ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem. 13Ond ateb Paul oedd, “Pam yr holl grïo yma? Dych chi'n torri fy nghalon i. Dw i'n fodlon nid yn unig cael fy rhwymo, ond marw yn Jerwsalem er mwyn yr Arglwydd Iesu.” 14Doedd dim modd ei berswadio, felly dyma ni'n rhoi'r gorau iddi a dweud, “Wel, rhaid i beth bynnag mae'r Arglwydd eisiau ddigwydd.” 15Yn fuan wedyn dyma ni'n dechrau'r daith ymlaen i Jerwsalem. 16Daeth rhai o Gristnogion Cesarea gyda ni, a mynd â ni i aros yng nghartre Mnason (dyn o Cyprus oedd yn un o'r rhai cyntaf i ddod i gredu).Paul yn cyrraedd Jerwsalem
17Cawson ni groeso cynnes gan y Cristnogion pan gyrhaeddon ni Jerwsalem. 18Yna'r diwrnod wedyn aeth Paul gyda ni i weld Iago, ac roedd yr arweinwyr i gyd yno. 19Ar ôl eu cyfarch dyma Paul yn rhoi adroddiad manwl o'r cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwy ei waith ymhlith pobl o genhedloedd eraill. 20Pan glywon nhw'r hanes dyma nhw'n moli Duw. Ond wedyn dyma nhw'n dweud wrth Paul: “Frawd, rwyt ti'n gwybod fod degau o filoedd o Iddewon wedi dod i gredu hefyd, ac maen nhw i gyd yn ofalus iawn i gadw Cyfraith Moses. 21Ond maen nhw wedi clywed dy fod ti'n dysgu'r Iddewon sy'n byw mewn gwledydd eraill i droi cefn ar Moses, i stopio enwaedu eu bechgyn a chadw'r traddodiadau Iddewig eraill. 22Mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Maen nhw'n siŵr o glywed dy fod ti wedi dod yma. 23Dyma beth dŷn ni'n awgrymu. Mae pedwar dyn yma sydd wedi cymryd llw. 24Dos gyda nhw, a mynd trwy'r ddefod o lanhau dy hun, a thalu'r costau iddyn nhw gael eillio eu pennau. Bydd hi'n amlwg i bawb wedyn bod y sibrydion amdanat ti ddim yn wir, a dy fod ti'n byw yn ufudd i'r Gyfraith. 25Ond lle mae'r Cristnogion o genhedloedd eraill yn y cwestiwn, dŷn ni wedi dweud mewn llythyr beth dŷn ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw – sef peidio bwyta cig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig anifeiliaid sydd wedi eu tagu, a'u bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol.” 26Felly'r diwrnod wedyn dyma Paul yn mynd drwy'r ddefod o lanhau ei hun gyda'r dynion eraill. Wedyn aeth i'r deml i gyhoeddi'r dyddiad y byddai'r cyfnod o buredigaeth drosodd, pan fyddai offrwm yn cael ei gyflwyno ar ran pob un ohonyn nhw.Paul yn cael ei arestio
27Pan oedd saith diwrnod y buredigaeth bron ar ben, dyma ryw Iddewon o dalaith Asia yn gweld Paul yn y deml. Dyma nhw'n llwyddo i gynhyrfu'r dyrfa ac yn gafael ynddo 28gan weiddi, “Bobl Israel, helpwch ni! Dyma'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhobman i droi yn erbyn ein pobl ni, a'n Cyfraith ni, a'r Deml yma! Ac mae wedi halogi'r lle sanctaidd yma drwy ddod â phobl o genhedloedd eraill i mewn yma!” 29(Roedden nhw wedi gweld Troffimus o Effesus gyda Paul yn y ddinas yn gynharach, ac yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi mynd gyda Paul lle na ddylai fynd yn y deml.) 30Dyma'r cynnwrf yn lledu drwy'r ddinas i gyd, a phobl yn rhedeg yno o bob cyfeiriad. Dyma nhw'n gafael yn Paul a'i lusgo allan o'r deml, ac wedyn cau'r giatiau. 31Roedden nhw'n mynd i'w ladd, ond clywodd capten y fyddin Rhufeinig fod reiat yn datblygu yn Jerwsalem. 32Aeth yno ar unwaith gyda'i filwyr a rhedeg i'r lle roedd y dyrfa. Roedd rhai wrthi'n curo Paul, ond pan welon nhw'r milwyr dyma nhw'n stopio. 33Dyma'r capten yn arestio Paul ac yn gorchymyn ei rwymo gyda dwy gadwyn. Wedyn gofynnodd i'r dyrfa pwy oedd, a beth oedd wedi ei wneud. 34Ond roedd rhai yn gweiddi un peth, ac eraill yn gweiddi rhywbeth hollol wahanol. Roedd hi'n amhosib darganfod beth oedd y gwir yng nghanol yr holl dwrw, felly dyma'r capten yn gorchymyn i'r milwyr fynd â Paul i'r barics milwrol yn Antonia. 35Erbyn i Paul gyrraedd y grisiau roedd y dyrfa wedi troi'n dreisgar, ac roedd rhaid i'r milwyr ei gario. 36Roedd y dyrfa yn ei dilyn nhw yn gweiddi, “Rhaid ei ladd! Rhaid ei ladd!”Paul yn annerch y dyrfa
37Roedd y milwyr ar fin mynd â Paul i mewn i'r barics pan ofynnodd i'r capten, “Ga i ddweud rhywbeth?” “Sut dy fod di'n siarad Groeg?” meddai'r capten wrtho, 38“Onid ti ydy'r Eifftiwr hwnnw ddechreuodd wrthryfel ychydig yn ôl ac arwain pedwar mil o aelodau'r grŵp terfysgol ‛y Sicari‛ i'r anialwch?” 39“Na,” meddai Paul, “Iddew ydw i; dw i'n ddinesydd o Tarsus yn Cilicia. Ga i siarad â'r bobl yma os gweli di'n dda?” 40Rhoddodd y capten ganiatâd iddo, a safodd Paul ar y grisiau a chodi ei law i gael y dyrfa i dawelu. Pan roedden nhw i gyd yn dawel, dechreuodd eu hannerch yn yr iaith Hebraeg:
Copyright information for
CYM
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word

2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.

3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".

1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.

2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.

© STEPBible - 2024