Deuteronomy 31
Josua yn cael ei benodi'n olynydd i Moses
(Numeri 27:12-23) 1Dyma Moses yn annerch pobl Israel i gyd eto, 2a dweud wrthyn nhw, “Dw i'n gant dau ddeg, a ddim yn gallu mynd a dod fel roeddwn i. Ac mae'r Arglwydd wedi dweud wrtho i na fydda i'n croesi'r afon Iorddonen. a 3Ond bydd yr Arglwydd eich Duw yn mynd drosodd o'ch blaen chi. Bydd e'n dinistrio'r cenhedloedd ac yn cymryd eu tir oddi arnyn nhw. Mae e wedi dweud mai Josua fydd yn eich arwain chi. 4Bydd yr Arglwydd yn eu dinistrio nhw a'u gwlad, fel y gwnaeth e i Sihon ac Og, b brenhinoedd yr Amoriaid. 5Bydd e'n rhoi'r gallu i chi eu concro nhw, ond rhaid i chi wedyn wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn i chi. 6Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn, a peidiwch panicio. Mae'r Arglwydd eich Duw yn mynd gyda chi. Fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi.” 7Yna dyma Moses yn galw Josua ato o flaen pobl Israel, a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr! Ti'n mynd gyda'r bobl yma i'r wlad wnaeth yr Arglwydd ei addo i'w hynafiaid nhw. Ti fydd yn eu galluogi nhw i gymryd y tir. 8Ond mae'r Arglwydd ei hun yn mynd o'ch blaen chi. Bydd e gyda chi; fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.”Darllen y Gyfraith bob saith mlynedd
9Yna dyma Moses yn ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma, a'u rhoi nhw i'r offeiriaid o lwyth Lefi, sy'n cario Arch ymrwymiad yr Arglwydd, ac i arweinwyr Israel i gyd. 10A dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw, “Pob saith mlynedd, ar Ŵyl y Pebyll, pan mae dyledion yn cael eu canslo, 11a pobl Israel i gyd yn dod o flaen yr Arglwydd eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis, rhaid i chi ddarllen y cyfarwyddiadau yma iddyn nhw. 12Galwch y bobl at ei gilydd – dynion, merched a phlant, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich pentrefi chi – iddyn nhw eu clywed, dysgu dangos parch at yr Arglwydd eich Duw, a gwneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud. 13Wedyn bydd eu disgynyddion, oedd ddim yn gwybod y gyfraith, yn cael clywed am yr Arglwydd eich Duw, a dysgu ei barchu, tra byddwch chi'n byw yn y wlad dych chi'n croesi dros yr afon Iorddonen i'w meddiannu.”Comisiynu Josua
14Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir. Galw am Josua, a dos gydag e i sefyll ym mhabell presenoldeb Duw, er mwyn i mi ei gomisiynu e.” Felly dyma Moses a Josua yn gwneud hynny. 15A dyma'r Arglwydd yn ymddangos iddyn nhw mewn colofn o niwl uwch ben drws y babell. 16Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir, a bydd y bobl yma'n anffyddlon i mi ac yn addoli duwiau'r wlad maen nhw'n mynd i mewn iddi. Byddan nhw'n troi cefn arna i, ac yn torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda nhw. 17Bydda i'n digio gyda nhw, ac yn troi cefn arnyn nhw, nes byddan nhw wedi eu dinistrio. Bydd lot o drychinebau ac helyntion yn dod arnyn nhw, a byddan nhw'n dweud, ‘Mae'r pethau ofnadwy yma wedi digwydd i ni am fod ein Duw wedi ein gadael ni.’ 18Ond fydda i'n sicr ddim yn eu helpu nhw, am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg drwy droi i addoli duwiau eraill. 19Felly ysgrifenna eiriau'r gân yma i lawr, a dysga hi i bobl Israel ar y cof. Bydd y gân yma'n dystiolaeth gen i yn erbyn pobl Israel. 20“Ar ôl i mi fynd â nhw i'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddan nhw ar ben eu digon. Ond yna byddan nhw'n troi i addoli duwiau eraill, yn dangos dirmyg ata i ac yn torri amodau'r ymrwymiad wnes i. 21Wedyn pan fydd y trychinebau a'r helyntion yn dod arnyn nhw bydd y gân yma yn dystiolaeth yn eu herbyn nhw (Bydd eu disgynyddion yn dal i gofio'r gân.) Dw i'n gwybod yn iawn beth sydd ar eu meddyliau nhw, hyd yn oed cyn i mi fynd â nhw i mewn i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw.” 22Felly dyma Moses yn ysgrifennu'r gân i lawr, ac yn ei dysgu hi i bobl Israel. 23A dyma'r Arglwydd yn comisiynu Josua fab Nwn, “Bydd yn gryf a dewr. Ti sy'n mynd i arwain pobl Israel i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw. Ond bydda i gyda ti.” 24Pan oedd Moses wedi gorffen ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma i gyd mewn sgrôl, 25dyma fe'n rhoi'r gorchymyn yma i'r dynion o lwyth Lefi oedd yn cario Arch ymrwymiad yr Arglwydd: 26“Cymerwch sgrôl y Gyfraith, a'i gosod hi wrth ymyl arch ymrwymiad yr Arglwydd eich Duw. Bydd yna yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. 27Dych chi'n bobl benstiff. Dych chi wedi gwrthryfela yn erbyn yr Arglwydd yr holl amser dw i wedi bod gyda chi, felly sut fyddwch chi ar ôl i mi farw? 28Casglwch arweinwyr y llwythau, a'r swyddogion at ei gilydd, i mi ddarllen y cwbl iddyn nhw, a bydda i'n galw y nefoedd a'r ddaear i dystio eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw i fod i'w wneud. 29Dw i'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Ar ôl i mi farw byddwch chi'n sbwylio popeth drwy droi cefn ar y ffordd o fyw dw i wedi ei dysgu i chi. Bydd trychineb yn dod arnoch chi yn y dyfodol o ganlyniad i'r holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud yn pryfocio'r Arglwydd i ddigio gyda chi.” 30Yna dyma Moses yn adrodd geiriau'r gân i bobl Israel i gyd, o'i dechrau i'w diwedd:
Copyright information for
CYM
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word

2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.

3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".

1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.

2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.

© STEPBible - 2024