Deuteronomy 6
Addewid Duw
1“Dyma'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd yr Arglwydd eich Duw i mi i'w dysgu i chi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad lle dych chi'n mynd. 2Byddwch chi'n dangos parch at yr Arglwydd eich Duw drwy gadw ei reolau a'i orchmynion – chi, eich plant, a'ch wyrion a'ch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a cewch fyw yn hir. 3Gwrandwch yn ofalus, bobl Israel! Os gwnewch chi hyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd eich niferoedd chi'n tyfu'n aruthrol, ac fel gwnaeth yr Arglwydd, Duw eich hynafiaid, addo i chi, bydd gynnoch chi wlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo.Egwyddor sylfaenol yr ymrwymiad
4“Gwranda Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy'r unig Arglwydd. 5Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a dy holl nerth. 6“Paid anghofio'r pethau dw i'n eu gorchymyn i ti heddiw. 7Rwyt i'w dysgu'n gyson i dy blant, a'i trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore. 8Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio. 9Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.Annogaeth i addoli'r Arglwydd yn unig
10“Roedd yr Arglwydd wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu; 11tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo'i casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'i plannu. Digon i'w fwyta! 12Pan fydd yr Arglwydd yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r Arglwydd wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. 13Rhaid i chi barchu'r Arglwydd eich Duw, a'i wasanaethu e, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw. 14Peidiwch addoli duwiau'r bobl o'ch cwmpas chi. 15Cofiwch fod yr Arglwydd eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. Bydd e'n digio gyda chi ac yn eich gyrru chi allan o'r wlad.Annogaeth i fod yn ufudd i'r Arglwydd
16“Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf, fel y gwnest ti yn Massa. a 17Gwnewch yn union beth mae'n ei orchymyn i chi, cadw ei ofynion a dilyn ei ganllawiau. 18Gwnewch beth sy'n iawn yn ei olwg, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd yr Arglwydd yn gyrru'ch gelynion chi allan a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi. 20Yna pan fydd eich plant yn gofyn i chi, ‘Pam wnaeth Duw roi'r gofynion a'r rheolau a'r canllawiau yma i ni?’ 21atebwch, ‘Roedden ni'n gaethweision y Pharo yn yr Aifft, ond dyma'r Arglwydd yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft. 22Gwelon ni e'n gwneud pethau ofnadwy i wlad yr Aifft ac i'r Pharo a'i deulu – gwyrthiau rhyfeddol. 23Gollyngodd ni'n rhydd er mwyn rhoi i ni'r wlad roedd e wedi ei haddo i'n hynafiaid. 24Dwedodd wrthon ni am gadw'r rheolau yma i gyd, a'i barchu e, er mwyn i bethau fynd yn dda i ni, ac iddo'n cadw ni'n fyw fel mae wedi gwneud hyd heddiw. 25Bydd pethau'n iawn gyda ni os gwnawn ni gadw'r gorchmynion yma fel mae'r Arglwydd wedi gofyn i ni wneud.’
Copyright information for
CYM