Ezekiel 16
Jerwsalem fel gwraig anffyddlon
1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti wneud i Jerwsalem wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau ffiaidd. 3Dywed fel hyn, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud wrth Jerwsalem: I'r Canaaneaid paganaidd rwyt ti'n perthyn go iawn! Ti wedi dy eni a dy fagu gyda nhw! Roedd dy dad yn Amoriad a dy fam yn Hethiad. ▼▼16:3 Amoriaid … Hethiad Y rhai oedd yn byw yn Canaan cyn pobl Israel.
4Pan gest ti dy eni gafodd dy linyn bogail mo'i dorri. Wnaeth neb dy olchi, rhwbio halen ar dy gorff, na lapio cadachau geni amdanat ti. 5Doedd neb yn poeni amdanat ti; neb yn teimlo trueni drosot ti. Cest dy daflu allan i farw. Doedd gan neb dy eisiau di. 6“‘Yna dyma fi'n dod heibio ac yn dy weld di'n gorwedd ar lawr yn cicio. Ac wrth i ti orwedd yna yn dy waed, dyma fi'n dweud, “Rhaid i ti fyw!” 7Dyma fi'n gwneud i ti dyfu a llwyddo, fel cnwd mewn cae. Ac yn wir, dyma ti yn tyfu ac yn aeddfedu yn wraig ifanc hardd gyda bronnau llawn a gwallt hir hyfryd. Ond roeddet ti'n dal yn gwbl noeth. 8“‘Yna dyma fi'n dod heibio eto a gweld dy fod yn ddigon hen i gael rhyw. Dyma fi'n estyn ymyl fy mantell dros dy gorff noeth di. Dyma fi'n addo bod yn ffyddlon i ti, ac yn dy briodi di. Fy ngwraig i oeddet ti.’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd. 9“‘Dyma fi'n dy olchi di gyda dŵr, golchi'r gwaed i ffwrdd, a rhwbio olew persawrus drosot ti. 10Rhoddais fantell hardd wedi ei brodio a sandalau lledr i ti eu gwisgo; a ddillad costus o liain main drud a sidan. 11Rhoddais dlysau a gemwaith i ti – breichledau ar dy fraich a chadwyn am dy wddf, 12modrwy i dy drwyn, clustdlysau, a choron hardd ar dy ben. 13Roeddet wedi dy harddu gydag arian ac aur, yn gwisgo dillad o liain main drud, sidan a defnydd wedi ei frodio'n hardd. Roeddet ti'n bwyta'r bwyd gorau, wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Roeddet ti'n hynod o hardd, ac yn edrych fel brenhines! 14Roeddet ti'n enwog drwy'r byd am dy harddwch. Roeddet ti'n berffaith, am fy mod i wedi rhoi popeth i dy wneud di mor hardd,’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd. 15“‘Ond aeth y cwbl i dy ben di. Dyma ti'n defnyddio dy enwogrwydd i ddechrau cysgu o gwmpas. Roeddet ti fel putain yn cynnig dy gorff i bwy bynnag oedd yn pasio heibio. Gallai unrhyw un dy gael di. 16Roeddet ti'n defnyddio dy ddillad hardd i addurno allorau paganaidd, ac yn gorwedd yno i buteinio! Mae'r peth yn anhygoel! 17A dyma ti'n cymryd dy dlysau hardd o aur ac arian i wneud delwau gwrywaidd anweddus a'u haddoli nhw yn fy lle i. 18Wedyn cymryd y defnydd wedi ei frodio i'w haddurno nhw, a chyflwyno fy olew a'm harogldarth i iddyn nhw. 19Roeddet ti hyd yn oed yn offrymu iddyn nhw y bwyd roeddwn i wedi ei roi i ti – bwyd hyfryd oedd wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Ie, dyna'n union ddigwyddodd!’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd. 20“‘Roeddet ti hyd yn oed yn aberthu dy blant, yn fechgyn a merched, fel bwyd i dy eilun-dduwiau! Oedd dy buteindra ddim yn ddigon? 21Oedd rhaid i ti ladd fy mhlant i hefyd, a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau paganaidd? 22Ac yng nghanol y puteinio a'r holl bethau ffiaidd yma roeddet ti'n eu gwneud, wnest ti ddim meddwl am funud beth oedd wedi digwydd pan oeddet ti'n fabi bach newydd dy eni, yn gorwedd yn dy waed yn noeth ac yn cicio. Jerwsalem y butain
23“‘Gwae ti!’ Dyna ydy neges y Meistr, yr Arglwydd. ‘Ar ben yr holl ddrwg yma 24ti wedi codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd! 25Ti'n codi dy stondin a chywilyddio dy hun drwy ledu dy goesau i bwy bynnag oedd yn pasio heibio! 26Roeddet ti'n puteinio gyda dy gymdogion yr Eifftiaid, oedd bob amser yn barod i gael rhyw. Roeddet ti'n mynd o ddrwg i waeth ac yn fy ngwylltio i'n lân. 27Felly dyma fi'n dy daro di'n galed, ac yn cymryd tir oddi arnat ti. Dyma fi'n gadael i dy elynion, y Philistiaid, dy reibio di. Roedd y ffordd roeddet ti'n ymddwyn yn ddigon i godi embaras arnyn nhw hyd yn oed! 28“‘Wedyn dyma ti'n rhoi dy hun i'r Asyriaid! Doeddet ti byth yn fodlon; byth wedi cael digon. Roedd gen ti eisiau mwy o hyd! 29A dyma roi dy hun i wlad y masnachwyr, sef Babilon. Ond doedden nhw ddim yn dy fodloni di chwaith. 30“‘Mae'n dangos mor wan wyt ti,’ meddai'r Meistr, yr Arglwydd. ‘Doedd gen ti ddim cywilydd o gwbl, fel putain 31yn codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd. Ond yn wahanol i buteiniaid eraill, doeddet ti ddim yn derbyn unrhyw dâl! 32“‘Gwraig anffyddlon wyt ti! Mae'n well gen ti roi dy hun i ddynion eraill nac i dy ŵr dy hun! 33Mae puteiniaid go iawn yn codi arian am eu gwasanaeth, ond dim ti! Na, rwyt ti'n rhoi anrhegion i dy gariadon ac yn cynnig tâl er mwyn eu perswadio nhw i ddod o bob cyfeiriad i dy gymryd di! 34Ti ddim byd tebyg i'r puteiniaid sy'n cael eu talu am ryw. Does neb wir dy eisiau di! Dwyt ti ddim yn cael dy dalu; rhaid i ti dalu iddyn nhw! Mae'r peth yn hollol groes i'r arfer!Barn Duw ar Jerwsalem
35“‘Felly, gwrando ar neges yr Arglwydd i ti, butain – 36Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Rwyt ti wedi tywallt dy haelioni rhywiol yn ddi-stop, a tynnu dy ddillad i ddangos popeth i dy gariadon. Ti wedi mynd ar ôl eilun-dduwiau ffiaidd, ac wedi lladd dy blant a'i haberthu iddyn nhw. 37Felly gwylia di beth dw i'n mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i gasglu dy gariadon di at ei gilydd – y rhai roeddet ti'n eu caru a'r rhai roeddet ti'n eu casáu. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o dy gwmpas di, ac yna dy stripio di'n noeth o'u blaenau nhw, a byddan nhw'n gweld dy rannau preifat. 38Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd (sef beth mae gwragedd sydd wedi godinebu neu lofruddio yn ei haeddu), yn tywallt fy nigofaint ac yn gweinyddu'r gosb eithaf. 39Bydda i'n gadael i dy gariadon ddinistrio dy allorau di, a bwrw i lawr dy stondin. Byddan nhw'n rhwygo dy ddillad oddi arnat, yn dwyn y gemwaith hardd sydd gen ti, ac yn dy adael di'n noeth. 40Byddan nhw'n galw'r mob i ymosod arnat ti drwy daflu cerrig, dy hacio di'n ddarnau gyda chleddyfau 41a llosgi dy dai. Bydd llawer o wragedd eraill yn gwylio hyn i gyd yn digwydd i ti. Dw i'n mynd i roi stop ar dy buteinio di! Fyddi di byth yn talu rhywun i ddod atat ti eto. 42“‘Ar ôl gwneud hynny bydda i'n gallu ymatal, a gadael llonydd i ti. Bydda i'n gallu bod yn dawel. Fydd dim rhaid gwylltio ddim mwy. 43“‘Am dy fod wedi anghofio'r dyddiau cynnar hynny, ac wedi fy ngwylltio i'n lân drwy ymddwyn fel gwnest ti, dw i'n mynd i dalu yn ôl i ti,’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.Fel y fam y bydd y ferch
“‘Ti wedi ymddwyn yn hollol ffiaidd, a hynny ar ben yr holl bethau anweddus eraill ti wedi eu gwneud! 44Y dywediad mae pobl yn ei ddefnyddio wrth sôn amdanat ti, ydy: “Fel y fam y bydd y ferch.” 45Ti'n union fel dy fam! Roedd hithau'n casáu ei gŵr a'i phlant. Ac roedd dy chwiorydd yr un fath. Hethiad oedd eich mam chi, ac Amoriad oedd eich tad! 46Dy chwaer fawr di oedd Samaria, yn byw i'r gogledd gyda'i merched. A dy chwaer fach di oedd Sodom, yn byw i'r de gyda'i merched hithau. 47Ti wedi ymddwyn yr un fath â nhw, ac wedi copïo eu harferion ffiaidd nhw. Yn wir, mewn byr o dro rwyt ti wedi mynd lot gwaeth na nhw! 48“‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr Arglwydd, ‘doedd dy chwaer Sodom a'i merched ddim yn ymddwyn mor ddrwg ag wyt ti a dy ferched wedi gwneud! 49Drwg dy chwaer Sodom oedd ei bod hi'n mwynhau byw'n foethus, yn gorfwyta, yn gwbl ddi-hid ac yn gwneud dim i helpu pobl dlawd oedd mewn angen. 50Roedden nhw'n snobyddlyd, ac yn gwneud peth cwbl ffiaidd. Felly dyma fi'n cael gwared â nhw, fel rwyt ti'n gwybod yn iawn. 51Ac wedyn Samaria – wnaeth hi ddim hanner y drwg rwyt ti wedi ei wneud! Yn wir, mae dy chwiorydd yn edrych yn reit ddiniwed o'i cymharu â ti! 52Dylet ti fod â chywilydd ohonot ti dy hun. Mae dy ymddygiad di wedi bod yn erchyll; rwyt ti wedi gwneud iddyn nhw edrych yn dda! Dylai'r fath beth godi cywilydd arnat ti!Adfer Sodom a Samaria
53“‘Ryw ddydd dw i'n mynd i adfer eu sefyllfa nhw, Sodom a Samaria. A bydda i'n adfer dy sefyllfa dithau hefyd, 54i ti deimlo cywilydd go iawn am beth wnest ti, yn gwneud iddyn nhw deimlo'n eitha da! 55Bydd dy chwiorydd, Sodom a Samaria a'u pobl, yn cael eu hadfer i'w safle blaenorol. A thithau yr un fath. 56Roedd Sodom yn destun sbort gen ti pan oedd pethau'n mynd yn dda arnat ti, 57cyn i dy ddrygioni di ddod i'r golwg. Bellach ti dy hun ydy'r testun sbort, gan bobl Edom a'i chymdogion y Philistiaid a phawb arall o dy gwmpas di. 58Rhaid i ti dderbyn y canlyniadau am dy ymddygiad anweddus a'r holl bethau ffiaidd ti wedi eu gwneud, meddai'r Arglwydd.Ymrwymiad fydd yn para am byth
59“‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu am gymryd dy lw yn ysgafn a torri'r ymrwymiad oedd rhyngon ni? 60Na, dw i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda ti pan oeddet ti'n ifanc, a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda ti fydd yn para am byth. b 61Wedyn byddi di'n cofio sut wnest ti ymddwyn, ac yn teimlo cywilydd mawr pan fyddi di'n derbyn dy ddwy chwaer yn ôl, yr hynaf a'r ifancaf. Dw i'n eu rhoi nhw i ti fel merched, er bod yr ymrwymiad wnes i ddim yn rhoi rheidrwydd arna i i wneud hynny. 62Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda ti, a byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd. 63Byddi'n cofio beth wnest ti, ac yn teimlo cywilydd mawr. Bydda i wedi maddau'r cwbl i ti, a gwneud iawn am bopeth wnest ti, a fyddi di ddim yn meiddio dweud gair,’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.
Copyright information for
CYM
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024