Dyma'r Arglwydd yn dweud:1“Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd cleddyf miniog, a'i ddefnyddio fel rasel i siafio dy ben a dy farf. Wedyn cymer glorian i bwyso'r gwallt wyt ti wedi ei dorri, a'i rannu'n dri. 2Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a'i dorri'n ddarnau mân gyda'r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu'r traean sydd ar ôl i'r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'i wain, a mynd ar eu holau nhw! 3Ond cymer rhyw ychydig bach o'r gwallt a'i gadw'n saff yn dy boced. 4Byddi'n cymryd ychydig o hwnnw i'w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw'n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.”5Dyma mae'r Meistr, yr Arglwydd yn ei ddweud: “Dyma Jerwsalem. Dw i wedi rhoi'r lle canolog iddi hi, gyda'r gwledydd eraill i gyd o'i chwmpas. 6Ond mae pobl Jerwsalem wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i, a gwneud mwy o ddrwg nag unrhyw wlad arall!”7Felly dyma mae'r Arglwydd, y Meistr yn ei ddweud: “Dych chi'n achosi mwy o drafferth na'r gwledydd o'ch cwmpas chi i gyd! Dych chi wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i. Allwch chi ddim hyd yn oed cadw safonau'r gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi! 8Felly dw i'n mynd i ddelio gyda chi – ie, fi, yr Arglwydd. Dw i'n eich erbyn chi! Dw i'n mynd i'ch cosbi chi, a bydd y gwledydd i gyd yn cael gweld y peth. 9Dw i'n mynd i wneud rhywbeth dw i erioed wedi ei wneud o'r blaen a fydda i byth yn ei wneud eto, am eich bod chi wedi gwneud pethau mor ffiaidd. 10Bydd pethau'n mynd mor wael yn Jerwsalem, bydd rhieni'n bwyta eu plant a plant yn bwyta eu rhieni! Dw i'n mynd i'ch barnu chi, a bydd y bobl hynny fydd yn llwyddo i oroesi yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad.”11“Mor sicr a'r ffaith fy mod i'n fyw,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd, “Am eich bod chi wedi llygru fy lle sanctaidd i gyda'ch eilunod a'r holl bethau ffiaidd eraill dych chi wedi eu gwneud, dw i'n mynd i'ch torri chi i ffwrdd. Fydd yna ddim trugaredd o gwbl! 12Bydd traean poblogaeth Jerwsalem yn marw yn y ddinas o haint a newyn. Bydd traean arall yn cael eu lladd yn y rhyfel. A bydd y traean sydd ar ôl yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad. Ond bydda i'n tynnu fy nghleddyf o'i wain ac yn mynd ar eu holau nhw!”13“Ar ôl hynny bydda i wedi tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! Byddan nhw'n gweld, wedyn, fy mod i wedi bod yn hollol o ddifri, ac wedi cael fy mrifo go iawn ganddyn nhw. 14Fyddi di Jerwsalem yn ddim byd ond tomen o adfeilion. 15Byddi'n destun sbort i bawb sy'n pasio heibio. Bydd y gwledydd sydd o dy gwmpas wrth eu boddau yn enllibio ac yn cega pan fydda i'n dy farnu di ac yn dy gosbi mor ffyrnig. Yr Arglwydd ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! 16Bydda i'n saethu saethau creulon newyn atoch chi, a'ch dinistrio chi. Fydd gynnoch chi ddim bwyd ar ôl. 17Bydd newyn ac anifeiliaid gwylltion yn lladd eich plant chi. Bydd afiechydon ofnadwy a thrais yn eich llethu chi. Bydda i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi. Yr Arglwydd ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!”
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?