Joshua 20
Trefi Lloches
(Numeri 35:9-15; Deuteronomium 19:1-13) 1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Josua: 2“Dywed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches wnes i orchymyn i Moses ddweud wrthoch chi amdanyn nhw. 3Bydd unrhyw un sy'n lladd person yn ddamweiniol yn gallu dianc yno. Bydd un o'r trefi yma yn lle saff i ddianc oddi wrth y perthynas sydd am ddial. 4Dylai'r un sydd wedi lladd rhywun trwy ddamwain, ddianc i un o'r trefi yma, a mynd i'r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i'r arweinwyr yno. Yna byddan nhw'n gadael iddo fynd i mewn i'r dref i fyw. 5A pan fydd y perthynas sydd â'r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd – doedd e ddim wedi bwriadu lladd. 6Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos a'r un sy'n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i'r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.” 7Felly dyma nhw'n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali, Sichem ym mryniau Effraim, a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda.8Ac i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw'n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben, Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad, a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse.
9Y rhain gafodd eu dewis yn drefi lloches i bobl Israel a'r mewnfudwyr oedd yn byw gyda nhw. Gallai rhywun oedd wedi lladd person yn ddamweiniol, ddianc yno i osgoi cael ei ladd gan y perthynas sydd â'r hawl i ddial, hyd nes i'w achos gael gwrandawiad mewn llys cyhoeddus.
Copyright information for
CYM