1Roedd arweinwyr y bobl wedi setlo yn Jerwsalem. A dyma gweddill y bobl yn taflu coelbren i benderfynu pwy arall oedd i symud i fyw i'r ddinas gysegredig. Roedd un o bob deg i fynd i Jerwsalem, a'r gweddill i fyw yn y trefi eraill. 2A dyma'r bobl yn bendithio'r dynion hynny wnaeth wirfoddoli i aros yn Jerwsalem.3Dyma restr o arweinwyr y dalaith wnaeth setlo yn Jerwsalem (Roedd y rhan fwya o bobl Israel yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda – a'r offeiriaid, Lefiaid, gweithwyr y deml, a disgynyddion gweision Solomon. 4Ond symudodd rhai o ddisgynyddion Jwda a Benjamin i fyw yn Jerwsalem.) O lwyth Jwda: Athaia fab Wseia (mab Sechareia, mab Amareia, mab Sheffateia, mab Mahalal-el, o glan Perets); 5Maaseia fab Barŵch (mab Colchose, mab Chasaia, mab Adaia, mab Ioiarîf, mab Sechareia, o glan Shela fab Jwda). 6(Cyfanswm disgynyddion Perets, y bobl ddewr wnaeth setlo yn Jerwsalem oedd 468.)7O lwyth Benjamin: Salw fab Meshwlam (mab Ioed, mab Pedaia, mab Colaia, mab Maaseia, mab Ithiel, mab Ieshaia,) 8a'r rhai oedd yn ei ddilyn, Gabai a Salai – 928 i gyd. 9(Joel fab Sichri oedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, a Jwda fab Hasenŵa oedd ei ddirprwy yn y ddinas.) 10O'r offeiriaid: Idaïa fab Ioiarîf, Iachin, 11Seraia fab Chilceia (mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf) sef archoffeiriad teml Dduw, 12a'i perthnasau oedd yn gweithio gyda nhw yn y deml – 822. Adaia fab Ierocham (mab Pelaleia, mab Amtsi, mab Sechareia, mab Pashchwr, mab Malcîa), 13a'i perthnasau oedd yn arweinwyr y clan – 242; Amash'sai fab Asarel (mab Achsai, mab Meshilemoth, mab Immer,) 14a'i berthnasau, y dynion dewr eraill oedd yn gweithio gydag e – 128. (Safdiel fab Hagedolîm oedd y swyddog yn gyfrifol amdanyn nhw). 15O'r Lefiaid: Shemaia fab Chashwf (mab Asricam, mab Chashafeia fab Bwnni); 16Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw; 17Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl; Bacbwceia oedd ei ddirprwy; ac Afda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn). 18(Cyfanswm y Lefiaid oedd yn byw yn y ddinas sanctaidd oedd 284).19Yna gofalwyr y giatiau: Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw – 172. 20Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriad a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda.21Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw.22Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw. 23Roedd brenin Persia wedi gorchymyn fod cyfran i'w roi iddyn nhw bob dydd. 24Ac roedd Pethacheia fab Meshesafel (o glan Serach o lwyth Jwda) ar gael i roi cyngor i'r brenin am faterion yn ymwneud â'r bobl.
Y bobl oedd yn byw tu allan i Jerwsalem
25I droi at y pentrefi a'r tiroedd o'u cwmpas nhw: Dyma bobl llwyth Jwda yn setlo yn Ciriath-arba a'r pentrefi o'i chwmpas, Dibon a'i phentrefi, Icaftseël a'i phentrefi, 26Ieshŵa, Molada, Beth-pelet, 27Chatsar-shwal, a Beersheba a'i phentrefi, 28Siclag a Mechona a'i phentrefi, 29En-rimmon, Sora, Iarmwth, 30Sanoach, Adwlam, a'u pentrefi. Lachish a'i thiroedd, ac Aseca a'i phentrefi. Roedden nhw wedi setlo drwy'r wlad i gyd, o Beersheba yn y de i ddyffryn Hinnom yn y gogledd.31Dyma bobl llwyth Benjamin yn setlo yn Geba, Michmas, Ai, a Bethel a'i phentrefi, 32yn Anathoth, Nob, Ananeia, 33Chatsor, Rama, Gittaïm, 34Hadid, Seboïm, Nefalat, 35Lod, Ono, a Dyffryn y Crefftwyr. 36A dyma rai o'r Lefiaid oedd yn Jwda yn symud i fyw i Benjamin.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?