1Flwyddyn ar ôl i bobl Israel adael gwlad yr Aifft, ar ddiwrnod cyntaf yr ail fis, ▼
▼1:1 ail fis Sif, ail fis y calendr Hebreig, o tua canol Ebrill i ganol Mai.
dyma'r Arglwydd yn siarad â Moses. Digwyddodd hyn yn y babell lle roedd Duw yn cyfarfod pobl, pan oedd pobl Israel yn anialwch Sinai. Dwedodd: 2“Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl bobl Israel. Dw i eisiau i ti restru enwau'r dynion i gyd – 3pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn, 4gyda help un dyn o bob llwyth sy'n arweinydd ar ei deulu estynedig.
16Dyna'r arweinwyr gafodd eu dewis o bob llwyth, yn benaethiaid ar bobl Israel.17Felly dyma Moses ac Aaron, a'r dynion yma gafodd eu henwi, 18yn casglu'r bobl i gyd at ei gilydd y diwrnod hwnnw, sef diwrnod cyntaf yr ail fis. A cafodd pawb eu cofrestru, gan nodi'r llwyth a'r teulu roedden nhw'n perthyn iddo. Cafodd pob un o'r dynion oedd dros ugain oed eu rhestru, 19yn union fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses. Digwyddodd y cyfrifiad yma yn anialwch Sinai.
20A dyma'r canlyniadau, sef nifer y dynion dros ugain oed allai ymuno â'r fyddin, gan ddechrau gyda Reuben (mab hynaf Israel):
Llwyth
Nifer
Reuben
46,500
Simeon
59,300
Gad
45,650
Jwda
74,600
Issachar
54,400
Sabulon
57,400
Yna meibion Joseff:
Effraim
40,500
Manasse
32,200
Wedyn,
Benjamin
35,400
Dan
62,700
Asher
41,500
Nafftali
53,400
44Dyma niferoedd y dynion gafodd eu cyfri gan Moses, Aaron, a'r deuddeg arweinydd (pob un yn cynrychioli llwyth ei hynafiad). 45Cawson nhw eu cyfrif yn ôl eu teuluoedd – pob un dyn oedd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. 46A'r cyfanswm oedd 603,550.47Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi. 48Roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses, 49“Paid cynnwys llwyth Lefi yn y cyfrifiad. 50Mae'r Lefiaid i fod i ofalu am Dabernacl y Dystiolaeth, a'r holl ddodrefn a'r offer sydd ynddo. Nhw sydd i'w gario, gofalu amdano, a gwersylla o'i gwmpas. 51Pan mae'r Tabernacl yn cael ei symud, y Lefiaid sydd i'w dynnu i lawr a'i godi eto. Os ydy rhywun arall yn mynd yn agos ato, y gosb fydd marwolaeth.52“Bydd lle penodol i bob un o lwythau Israel wersylla, a bydd gan bob llwyth ei fflag ei hun. 53Ond bydd y Lefiaid yn gwersylla o gwmpas Tabernacl y Dystiolaeth, i amddiffyn pobl Israel rhag i'r Arglwydd ddigio gyda nhw. Cyfrifoldeb y Lefiaid ydy gofalu am Dabernacl y Dystiolaeth.”54Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?