‏ Psalms 149

Emyn o fawl

1Haleliwia!

Canwch gân newydd i'r Arglwydd,
Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.
2Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr!
Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin!
3Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns;
ac ar y drwm a'r delyn fach.
4Achos mae'r Arglwydd wrth ei fodd gyda'i bobl!
Mae'n gwisgo'r rhai sy'n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth.
5Boed i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu;
a gweiddi'n llawen wrth orffwys ar eu clustogau.
6Canu mawl i Dduw
gyda chleddyfau miniog yn eu dwylo,
7yn barod i gosbi'r cenhedloedd,
a dial ar y bobloedd.
8Gan rwymo eu brenhinoedd â chadwyni,
a'u pobl bwysig mewn hualau haearn.
9Dyma'r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw;
a'r fraint fydd i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon.

Haleliwia!
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.