Revelation of John 6
Y saith sêl
1Roeddwn i'n gwylio'r Oen yn agor y gyntaf o'r saith sêl. A chlywais un o'r pedwar creadur byw yn galw'n uchel mewn llais oedd yn swnio fel taran, “Tyrd allan!” 2Yn sydyn roedd ceffyl gwyn o'm blaen i, a marchog ar ei gefn yn cario bwa a saeth. Cafodd ei goroni, ac yna aeth i ffwrdd ar gefn y ceffyl fel un oedd yn mynd i goncro'r gelyn, yn benderfynol o ennill y frwydr. 3Pan agorodd yr Oen yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!” 4Yna daeth ceffyl arall allan – un fflamgoch. Cafodd y marchog ar ei gefn awdurdod i gymryd heddwch o'r byd fel bod pobl yn lladd ei gilydd. Dyma gleddyf mawr yn cael ei roi iddo. 5Pan agorodd yr Oen y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn cyhoeddi'n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o'm blaen i, a'r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law. 6Yna clywais lais yn dod o ble roedd y pedwar creadur byw, yn cyhoeddi'n uchel: “Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd! Ond paid gwneud niwed i'r coed olewydd a'r gwinwydd!” 7Pan agorodd yr Oen y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!” 8Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl llwyd o'm blaen i! Marwolaeth oedd enw'r marchog oedd ar ei gefn, ac roedd Byd y Meirw yn dilyn yn glos y tu ôl iddo. Dyma nhw'n cael awdurdod dros chwarter y ddaear – awdurdod i ladd gyda'r cleddyf, newyn a haint, ac anifeiliaid gwylltion. a 9Pan agorodd y bumed sêl, gwelais o dan yr allor y rhai oedd wedi cael eu lladd am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. 10Roedden nhw'n gweiddi'n uchel, “O Feistr Sofran, sanctaidd a gwir! Faint mwy sydd raid i ni aros cyn i ti farnu'r bobl sy'n perthyn i'r ddaear, a dial arnyn nhw am ein lladd ni?” 11Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a'r chwiorydd fyddai'n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd. 12Wrth i mi wylio'r Oen yn agor y chweched sêl buodd daeargryn mawr. Trodd yr haul yn ddu fel dillad galar, a'r lleuad yn goch i gyd fel gwaed. 13Dyma'r sêr yn dechrau syrthio fel ffigys gwyrdd yn disgyn oddi ar goeden pan mae gwynt cryf yn chwythu. b 14Diflannodd yr awyr fel sgrôl yn cael ei rholio. A chafodd pob mynydd ac ynys eu symud o'u lle. 15Aeth pawb i guddio mewn ogofâu a thu ôl i greigiau yn y mynyddoedd – brenhinoedd a'u prif swyddogion, arweinwyr milwrol, pobl gyfoethog, pobl bwerus, caethweision, dinasyddion rhydd – pawb! c 16Roedden nhw'n gweiddi ar y mynyddoedd a'r creigiau, “Syrthiwch arnon ni a'n cuddio ni d o olwg yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth ddigofaint yr Oen! 17Mae'r diwrnod mawr iddo ddangos mor ddig ydy e wedi dod! Pa obaith sydd i unrhyw un?”
Copyright information for
CYM