1 Samuel 18:1-4

1Ar ôl siarad â Saul dyma Dafydd yn cyfarfod Jonathan, ei fab, a daeth y ddau yn ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. 2O'r diwrnod hwnnw ymlaen dyma Saul yn cadw Dafydd gydag e, a chafodd e ddim mynd adre at ei dad. 3Roedd Jonathan a Dafydd wedi ymrwymo i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. 4Tynnodd ei fantell a'i rhoi am Dafydd, a'i grys hefyd, a hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i felt.

1 Samuel 20:14-17

14Fel mae'r Arglwydd yn ffyddlon, bydd dithau'n driw i mi tra bydda i byw. A hyd yn oed pan fydda i wedi marw, 15paid troi dy gefn ar dy ymrwymiad i'm teulu i. A pan fydd yr Arglwydd wedi cael gwared â phob un o dy elynion di oddi ar wyneb y ddaear 16a'i galw nhw i gyfri, paid gadael i rwyg godi rhyngddo i, Jonathan a theulu Dafydd.” 17A dyma Jonathan yn mynd ar ei lw unwaith eto am ei fod yn caru Dafydd – roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.

1 Samuel 20:42

42Dwedodd Jonathan wrth Dafydd, “Bendith arnat ti! Dŷn ni'n dau wedi gwneud addewid i'n gilydd o flaen yr Arglwydd. Bydd yr Arglwydd yn gwneud yn siŵr ein bod ni a'n plant yn cadw'r addewid yna.”

Felly dyma Dafydd yn mynd i ffwrdd, ac aeth Jonathan yn ôl adre.

Copyright information for CYM