1 Samuel 4:1-11
1A byddai Samuel yn rhannu'r neges gydag Israel gyfan.Y Philistiaid yn dwyn yr Arch
Dyma Israel yn mynd i ryfel yn erbyn y Philistiaid. Roedden nhw'n gwersylla yn Ebeneser, tra roedd y Philistiaid yn gwersylla yn Affec ▼▼4:1 Ebeneser … Affec Roedd Ebeneser tua 2 filltir i'r dwyrain o Affec.
. 2Dyma'r Philistiaid yn trefnu eu byddin yn rhengoedd. Dechreuodd yr ymladd, a dyma Israel yn colli. Cafodd tua pedair mil o'u dynion eu lladd. 3Pan ddaeth gweddill y fyddin yn ôl i'r gwersyll, dyma arweinwyr Israel yn dechrau holi, “Pam wnaeth yr Arglwydd adael i'r Philistiaid ein curo ni? Gadewch i ni ddod ag Arch Ymrwymiad yr Arglwydd yma aton ni o Seilo. Os bydd hi'n mynd gyda ni, bydd yn ein hachub ni o afael y gelyn!” 4Felly dyma nhw'n anfon i Seilo i nôl Arch Ymrwymiad yr Arglwydd holl-bwerus, sy'n eistedd uwch ben y ceriwbiaid. Roedd meibion Eli, Hoffni a Phineas, yno gyda'r Arch. 5Pan gyrhaeddodd Arch Ymrwymiad yr Arglwydd y gwersyll, dyma pawb yn bloeddio gweiddi mor uchel roedd fel petai'r ddaear yn crynu! 6Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, dyma nhw'n holi, “Pam maen nhw'n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw'n sylweddoli fod Arch yr Arglwydd wedi dod i'r gwersyll. 7Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae hi ar ben arnon ni,” medden nhw. “Mae'r duwiau wedi dod i'w gwersyll nhw. Does dim byd fel yma wedi digwydd o'r blaen. 8Mae hi ar ben arnon ni go iawn. Pwy sy'n mynd i'n hachub ni o afael y duwiau cryfion yma? Dyma'r duwiau wnaeth daro'r Eifftiaid mor ofnadwy yn yr anialwch. 9Philistiaid, rhaid i chi fod yn ddewr! Byddwch yn ddynion! Neu byddwch chi'n mynd yn gaeth i'r Hebreaid fel buon nhw yn gaeth i chi. Byddwch yn ddynion, ac ymladd!” 10Felly dyma'r Philistiaid yn ymosod ar Israel. Collodd Israel y frwydr, a dyma'r fyddin i gyd yn dianc am adre. Roedd lladdfa fawr. Cafodd tua tri deg mil o filwyr traed Israel eu lladd. 11Cafodd Arch Duw ei chipio hefyd, a cafodd Hoffni a Phineas, meibion Eli, eu lladd. b Eli yn marw
Copyright information for
CYM