2 Samuel 8:3-8

3Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser fab Rechob, brenin talaith Soba yn Syria. Roedd hwnnw ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. 4Ond dyma Dafydd yn dal mil saith gant o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. 5A pan ddaeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dau mil ohonyn nhw hefyd.

6Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daeth y Syriaid o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr Arglwydd yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. 7Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem. 8A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Betach a Berothai, trefi Hadadeser.

2 Samuel 10:16-18

16Dyma Hadadeser yn anfon am y Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates, i ddod allan atyn nhw i Chelam. Shofach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.

17Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi'r afon Iorddonen a dod i Chelam. Roedd y Syriaid wrthi'n gosod eu hunain yn rhengoedd i wynebu byddin Dafydd, a dyma nhw'n dechrau ymladd. 18Ond dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith gant o filwyr cerbyd y Syriaid, a pedwar deg mil o filwyr traed. Cafodd Shofach, cadfridog byddin y Syriaid, ei ladd yn y frwydr hefyd.

1 Chronicles 18:3-11

3Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser, brenin talaith Soba wrth Chamath. Roedd e ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. 4Ond dyma Dafydd yn dal mil o'i gerbydau rhyfel, saith mil o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. 5Daeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, ond lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dau mil ohonyn nhw hefyd.

6Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daethon nhw hefyd o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr Arglwydd yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. 7Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem. 8A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Tifchath a Cwn, trefi Hadadeser (Defnyddiodd Solomon y pres i wneud y basn mawr oedd yn cael ei alw “Y Môr,” a hefyd y pileri ac offer arall o bres.).

9Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro Hadadeser, brenin Soba, a'i fyddin i gyd, 10dyma fe'n anfon ei fab Hadoram ato i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Ac aeth â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e. 11A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r Arglwydd. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef: Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid.

1 Chronicles 19:6-19

6Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma Chanŵn a pobl Ammon yn anfon 34,000 cilogram o arian i logi cerbydau a marchogion gan Aram-naharaim, Aram-maacha a Soba. 7Dyma nhw'n llogi 32,000 o gerbydau, a dyma frenin Maacha a'i fyddin yn dod ac yn gwersylla o flaen Medeba. A dyma ddynion Ammon yn dod at ei gilydd o'u trefi er mwyn mynd allan i frwydro. 8Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan. 9Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd y brenhinoedd oedd wedi dod i ymladd ar eu pennau eu hunain ar dir agored.

10Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid. 11A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid. 12“Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i eich helpu chi. 13Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr Arglwydd yn gwneud fel mae'n gweld yn dda.”

14Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw. 15Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai, ei frawd, a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn mynd yn ôl i Jerwsalem.

16Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n anfon am fwy o filwyr. A dyma'r Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates yn dod. Shoffach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.

17Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi'r afon Iorddonen a dod i Chelam. A dyma Dafydd yn gosod ei fyddin yn rhengoedd i wynebu y Syriaid, ac yn dechrau ymladd yn eu herbyn. 18Dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith mil o filwyr cerbyd y Syriaid, a pedwar deg mil o filwyr traed. Lladdodd Shoffach, cadfridog byddin y Syriaid, hefyd. 19Pan welodd milwyr Hadadeser eu bod wedi colli'r dydd, dyma nhw'n gwneud heddwch â Dafydd, a dod o dan ei awdurdod. Felly, doedd y Syriaid ddim yn fodlon helpu'r Ammoniaid eto.

Copyright information for CYM