Deuteronomy 8:11-17

11“Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r Arglwydd, ac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw. 12Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw, 13mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur – yn wir, digon o bopeth – 14gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r Arglwydd eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. 15Daeth yr Arglwydd a chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych lle doedd dim dŵr, ond dyma'r Arglwydd yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed. 16Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd. 17Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’
Copyright information for CYM