Ezekiel 43:1-5

1Yna aeth â fi at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. 2Yno gwelais ysblander Duw Israel yn dod o gyfeiriad y dwyrain. Roedd ei sŵn yn debyg i sŵn rhaeadr ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear i gyd. 3Roedd yr un fath â'r weledigaeth ges i pan ddaeth e i ddinistrio'r ddinas, a'r un pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar. Dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr. 4A dyma ysblander yr Arglwydd yn mynd yn ôl i mewn i'r deml drwy'r giât oedd yn wynebu'r dwyrain. 5Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â fi i'r iard fewnol. A dyna lle roeddwn i yn syllu ar ysblander yr Arglwydd yn llenwi'r deml.

Copyright information for CYM