Genesis 14:18-20
18A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf, 19a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn: “Boed i'r Duw Goruchaf,sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,
dy fendithio Abram.
20A boed i'r Duw Goruchaf gael ei foli,
am ei fod wedi gwneud i ti goncro dy elynion!”
Yna dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o'r cwbl oedd ganddo.
Copyright information for
CYM