Isaiah 1:10-15

10Gwrandwch ar neges yr Arglwydd,
arweinwyr Sodom!
Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi,
bobl Gomorra!
11“Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?” a
meddai'r Arglwydd.
“Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi,
o fraster anifeiliaid a gwaed teirw.
Dw i ddim eisiau eich ŵyn a'ch bychod geifr chi.
12Dych chi'n ymddangos o'm blaen i –
Ond pwy ofynnodd i chi ddod
i stompio drwy'r deml?
13Stopiwch ddod â'ch offrymau diystyr!
Mae'r arogldarth yn troi arna i!
Dych chi'n dathlu Gŵyl y lleuad newydd a'r Sabothau,
ac yn cynnal cyfarfodydd eraill,
Ond alla i ddim diodde'r drygioni
sy'n mynd gyda'ch dathliadau crefyddol chi.
14Dw i'n casáu'r lleuadau newydd
a'ch gwyliau eraill chi.
Maen nhw'n faich arna i;
alla i mo'i diodde nhw.
15Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo,
bydda i'n edrych i ffwrdd.
Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi,
ond fydda i ddim yn gwrando.
Mae gwaed ar eich dwylo chi!

Isaiah 58:1-7

1“Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl;
Cod dy lais fel sain corn hwrdd
58:1 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
!
Dywed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela,
ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu.
2Maen nhw'n troi ata i bob dydd,
ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd.
Maen nhw'n ôl pob golwg yn genedl sy'n gwneud beth sy'n iawn
ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw.
Maen nhw'n gofyn i mi am y ffordd iawn,
ac yn awyddus i glosio at Dduw.
3‘Pam oeddet ti ddim yn edrych
pan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw,
‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw
pan oedden ni'n cosbi ein hunain?’
Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunain
ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd!
4Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio,
Dim dyna'r ffordd i ymprydio
os ydych chi eisiau i Dduw wrando.
5Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau? –
diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain,
ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo?
Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw?
Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio,
yn ddiwrnod sy'n plesio'r Arglwydd?
6Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau:
cael gwared â chadwyni anghyfiawnder;
datod rhaffau'r iau,
a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd;
dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl.
7Rhannu dy fwyd gyda'r newynog,
rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartref
a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth.
Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.

Amos 5:21-24

21“Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi,
ac yn eu diystyru nhw.
Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi. c
22Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi,
ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw.
Gallwch ddod ac offrymu eich anifeiliaid gorau i mi,
ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl!
23Plîs stopiwch ddod yma i forio canu eich emynau,
does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich offerynnau cerdd chi.
24Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo,
a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu.

Copyright information for CYM