Isaiah 1:17
17Dysgwch wneud da.Brwydrwch dros gyfiawnder;
o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu.
Cefnogwch hawliau plant amddifad,
a dadlau dros achos y weddw.
Isaiah 1:23
23Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela,ac yn ffrindiau i ladron;
Maen nhw i gyd yn hoffi breib,
Ac yn chwilio am wobr.
Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad
na gwrando ar achos y weddw.
Jeremiah 5:28
28wedi pesgi ac yn edrych mor dda.Does dim pen draw i'w drygioni nhw!
Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad,
nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd.
Jeremiah 7:5-7
5“‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg, 6peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi'ch hunain! 7Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i'n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i'ch hynafiaid chi i'w chadw am byth bythoedd.Jeremiah 21:12
12Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud wrth deulu brenhinol Jwda, sy'n perthyn i linach Dafydd: “Gwrandwch ar neges yr Arglwydd – ‘Gwnewch yn siŵr fod pobl yn cael tegwch yn y llysoedd.Achubwch bobl sy'n dioddef
o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw.
Os na wnewch chi, bydda i'n ddig.
Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,
o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.
Jeremiah 22:3
3Mae'r Arglwydd yn dweud: “Gwnewch beth sy'n gyfiawn ac yn deg, ac achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Peidiwch cam-drin a chymryd mantais o fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon. A peidiwch lladd pobl ddiniwed.Amos 5:14-15
14Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,a chewch fyw!
Wedyn bydd yr Arglwydd, y Duw holl-bwerus,
gyda chi go iawn
(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)
15Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr Arglwydd, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.
Amos 5:24
24Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo,a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu.
Micah 6:8
8Na, mae'r Arglwydd wedi dweud beth sy'n dda,a beth mae e eisiau gen ti:
Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,
a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.
Bydd yr Arglwydd yn cosbi'r arweinwyr
Copyright information for
CYM