Isaiah 17:1-3

1Neges am Damascus.

“Edrychwch ar Damascus!
Dydy hi ddim yn ddinas bellach –
mae hi'n bentwr o gerrig! a
2Bydd ei phentrefi yn wag am byth:
lle i breiddiau orwedd
heb neb i'w dychryn.
3Bydd trefi caerog Effraim
17:3 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
,
a sofraniaeth Damascus yn diflannu.
Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syria
yn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!”

—yr Arglwydd holl-bwerus sy'n dweud hyn.

Jeremiah 49:23-27

23Neges am Damascus:

“Mae pobl Chamath ac Arpad
49:23 Chamath ac Arpad Dwy dref yn Syria.
wedi drysu.
Maen nhw wedi clywed newyddion drwg.
Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfu
fel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd.
24Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder,
ac wedi ffoi mewn panig.
Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,
fel gwraig ar fin cael babi.
25Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –
y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!
26Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,
a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”

—yr Arglwydd holl-bwerus sy'n dweud hyn.
27“Bydda i'n llosgi waliau Damascus,
a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad
49:27 Ben-hadad Enw neu deitl ar nifer o frenhinoedd Damascus (1 Brenhinoedd 15:18, 20; 2 Brenhinoedd 13:24). Ystyr yr enw ydy "mab Hadad". Hadad oedd Duw'r storm.
.” e

Neges am Cedar a Chatsor

Zechariah 9:1

1Y neges roddodd yr Arglwydd
am ardal Chadrach,
yn arbennig tref Damascus.
(Mae llygad yr Arglwydd ar y ddynoliaeth
fel mae ar lwythau Israel i gyd.)
Copyright information for CYM