Jeremiah 49:1-6

1Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud am bobl Ammon:

“Oes gan Israel ddim disgynyddion?
Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir?
Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcom
49:1 Milcom Un o dduwiau Ammon – 1 Brenhinoedd 11:5. Enw arall arno oedd Molech – 2 Brenhinoedd 23:10; Jeremeia 32:35

wedi dwyn tir Gad
49:1 tir Gad roedd tir llwyth Gad i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen.
a setlo yn ei drefi?
2Felly mae'r amser yn dod”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn—
“pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba.
Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion,
a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw.
Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôl
gan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,”

—meddai'r Arglwydd.
3“Udwch, bobl Cheshbon
49:3 Cheshbon gw. 48:45; roedd Cheshbon ar y ffin rhwng Moab ac Ammon.
, am fod Ai wedi ei bwrw i lawr!
Gwaeddwch, chi sy'n y pentrefi o gwmpas Rabba!
Gwisgwch sachliain a galarwch!
Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain!
Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd,
a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e!
4Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf?
Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon!
Roeddech yn trystio eich cyfoeth, ac yn meddwl,
‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’
5Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,”
meddai'r Meistr, yr Arglwydd holl-bwerus.
“Byddi'n cael dy yrru ar chwâl,
a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid.

6“Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.”


—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

Neges am Edom

Ezekiel 21:28-32

28“Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon:

Cleddyf! Cleddyf,
yn cael ei chwifio i ladd.
Wedi ei sgleinio i ddifa,
ac yn fflachio fel mellten.

29“‘Mae gweledigaethau dy broffwydi'n ffug, a'r arweiniad trwy ddewino yn gelwydd! Mae'r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg. Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!

30“‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni. 31Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a'ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i'n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy'n gwybod sut i ddinistrio. 32Byddwch yn danwydd i'r tân. Bydd eich gwaed wedi ei dywallt ar y tir. Fydd neb yn eich cofio. Yr Arglwydd ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’”

Ezekiel 25:1-7

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu gwlad Ammon a proffwydo yn eu herbyn nhw. 3Dywed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr Arglwydd, i chi. Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo. 4Ond gwyliwch chi'ch hunain! Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n gaethweision i bobl y dwyrain. Maen nhw'n dod i godi eu pebyll a symud i fyw yn eich plith chi. Byddan nhw'n cymryd eich ffrwythau chi ac yn yfed llaeth eich preiddiau chi. 5Bydda i'n gwneud Rabba yn dir comin i gamelod bori arno ac Ammon yn gorlan i ddefaid. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.

6“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi ysgwyd dwrn
25:6 ysgwyd dwrn Hebraeg, “curo dwylo”, oedd yn arwydd eich bod wedi gwylltio.
a stampio'ch traed ar Israel, a dathlu a gweiddi hwrê yn sbeitlyd pan gafodd y wlad ei dinistrio,
7dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd!’”

Moab a Seir

Zephaniah 2:8-11

8“Dw i wedi clywed Moab yn gwawdio
a phobl Ammon yn enllibio
2:8 Moab … Ammon Y bobloedd i'r dwyrain o Jwda, yr ochr draw i'r Afon Iorddonen. Disgynyddion Lot, nai Abraham, yn ôl Genesis 19:30-38

gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.
9Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,”

—meddai'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel.
“Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! f
yn llawn chwyn a phyllau halen,
ac yn dir diffaith am byth.
Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo,
a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”
10Dyna fydd eu tâl am eu balchder,
am wawdio a bygwth pobl yr Arglwydd holl-bwerus.
11Bydd yr Arglwydd yn eu dychryn,
a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim.
Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r Arglwydd
yn eu gwledydd eu hunain.

Barnu Gogledd-Ddwyrain Affrica

Copyright information for CYM