Judges 7:24-25

24A dyma Gideon yn anfon negeswyr i fryniau Effraim gyda'r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o'u blaenau a'u stopio nhw rhag croesi'r rhydau dros yr Afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny. 25Dyma nhw'n dal dau o arweinwyr byddin Midian, Oreb a Seeb.
7:25 Oreb a Seeb ystyr  Oreb ydy "Cigfran", ac ystyr  Seeb ydy "Blaidd".
Cafodd Oreb ei ladd ganddyn nhw wrth y graig sy'n cael ei hadnabod bellach fel Craig Oreb. A cafodd Seeb ei ladd wrth y gwinwryf sy'n cael ei adnabod bellach fel Gwinwryf Seeb. A dyma nhw'n dod â phen y ddau at Gideon, oedd yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.

Copyright information for CYM