Leviticus 14:1-32

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dyma'r drefn pan mae rhywun wedi gwella o glefyd heintus ar y croen:

“Rhaid mynd â'r mater at yr offeiriad. 3Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella 4bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop. 5Wedyn bydd yr offeiriad yn dweud wrtho am ladd un o'r adar uwch ben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo. 6Wedyn rhaid iddo gymryd yr aderyn sy'n dal yn fyw, y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'i trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd. 7Wedyn bydd yn taenellu peth o'r gwaed saith gwaith ar y person sydd wedi gwella o'r clefyd heintus. Yna bydd yn cyhoeddi fod y person yn lân, ac yn gadael i'r aderyn hedfan i ffwrdd.

8“Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio ei gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod. 9Ar ôl hynny bydd yn siafio eto – ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân.

10“Y diwrnod wedyn mae i gymryd dau oen gwryw ac oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw at yr offeiriad. Hefyd tri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, ac un rhan o dair o litr o olew olewydd. 11Bydd yr offeiriad sy'n arwain y ddefod glanhad yn mynd â'r person a'i offrwm o flaen yr Arglwydd at fynedfa'r Tabernacl. 12Yno bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd a'i codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. 13Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd piau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.

14“Mae'r offeiriad wedyn i gymryd peth o waed yr offrwm i gyfaddef bai, a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. 15Wedyn mae'r offeiriad i gymryd peth o'r olew olewydd a'i dywallt i gledr ei law ei hun. 16Yna rhoi bys ei law dde yn yr olew sydd yn ei law chwith, a'i daenellu saith gwaith o flaen yr Arglwydd. 17Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd ar ôl yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw. 18Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau. Wedyn bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw: 19bydd yn cyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod, i wneud pethau'n iawn rhwng y person â Duw a'i lanhau o'r cyflwr aflan oedd wedi bod ynddo. Yna bydd yr offeiriad yn lladd yr offrwm sydd i'w losgi. 20Bydd yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi a'r offrwm o rawn ar yr allor. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person â Duw, a bydd e'n lân.

21“Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio hyn i gyd, mae i gymryd un oen gwryw yn offrwm i gyfaddef bai sydd i'w godi'n uchel. Bydd yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw. Hefyd un rhan o dair o litr o olew olewydd a cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew yn offrwm o rawn. 22Hefyd dwy durtur neu ddwy golomen – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. 23Dylai fynd â nhw at yr offeiriad ar yr wythfed diwrnod, ar gyfer y ddefod o gael ei lanhau. Mae i fynd â nhw at fynedfa'r Tabernacl, o flaen yr Arglwydd.

24“Bydd yr offeiriad yn cymryd yr oen sy'n offrwm i gyfaddef bai, gyda'r olew olewydd, ac yn eu codi nhw'n uchel yn offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. 25Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. 26Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith. 27Yna gyda bys ei law dde mae i daenellu peth o'r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen yr Arglwydd. 28Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw. 29Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw.

30“Wedyn mae i gymryd y turturod neu'r colomennod ifanc (beth bynnag mae'n gallu ei fforddio). 31Mae un i'w gyflwyno yn offrwm i lanhau o bechod, a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr gyda'r offrwm o rawn. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cael ei lanhau a Duw. 32Dyna'r drefn ar gyfer rhywun sydd wedi bod â clefyd heintus ar y croen, ond sy'n methu fforddio'r offrymau ar gyfer y ddefod glanhau.”

Tyfiant ffyngaidd mewn tŷ

Copyright information for CYM