Matthew 17:20

20“Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.
17:20 i chi: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn 21 Ond dim ond trwy weddi ac ympryd mae ysbrydion drwg fel yna'n dod allan.

Iesu'n dweud eto ei fod yn mynd i farw a dod yn ôl yn fyw

(Marc 9:30-32; Luc 9:43b-45)

Matthew 21:21

21“Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud i'r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr,’ a byddai'n digwydd.

Mark 11:23

23“Credwch chi fi, does ond rhaid i chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr’ – heb amau o gwbl, dim ond credu y gwnaiff ddigwydd – a bydd yn digwydd!
Copyright information for CYM