Matthew 5:34-37

34Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i'r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw; 35nac i'r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr. 36Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i'ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu'n wyn. 37Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy'n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.

Llygad am lygad

(Luc 6:29,30)

Copyright information for CYM