‏ Numbers 25:1-13

1Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab. 2Roedd y merched wedi eu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau. 3Cyn pen dim roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr Arglwydd wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel, 4a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr Arglwydd ganol dydd, er mwyn i'r Arglwydd beidio bod mor wyllt gydag Israel.” 5Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.” 6Wrth iddo ddweud hyn, a pobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i'r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd. 7A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon, 8a mynd ar ôl y dyn i'r babell. A dyma fe'n gwthio'r waywffon drwy'r ddau ohonyn nhw – drwy'r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma'r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio. 9Roedd 24,000 o bobl wedi marw o'r pla.

10Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 11“Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy nig yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosta i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd. 12Felly dywed wrtho fy mod yn gwneud ymrwymiad o heddwch gydag e; 13ymrwymiad mai fe a'i ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a pobl Israel.”
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.