Luke 6
Arglwydd y Saboth
(Mathew 12:1-8; Marc 2:23-28) 1Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd, eu rhwbio yn eu dwylo a'u bwyta. ▼▼6:1 a'u bwyta: Roedd gan deithwyr hawl i wneud hyn.
b 2Gofynnodd rhai o'r Phariseaid, “Pam dych chi'n torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?” 3Atebodd Iesu, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i ddilynwyr yn llwgu? c 4Aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, d ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.” 5Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.” Y dyn â'r llaw ddiffrwyth
(Mathew 12:9-14; Marc 3:1-6) 6Ar ryw Saboth arall, roedd Iesu'n dysgu yn y synagog, ac roedd yno ddyn oedd â'i law dde yn ddiffrwyth. 7Roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wylio'n ofalus – oedd e'n mynd i iacháu'r dyn yma ar y Saboth? Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn. 8Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw, a galwodd y dyn ato, “Tyrd yma i sefyll o flaen pawb.” Felly cododd ar ei draed a sefyll lle gallai pawb ei weld. 9“Gadewch i mi ofyn i chi,” meddai Iesu wrth y rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ddinistrio bywyd?” 10Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un, ac yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Gwnaeth hynny a chafodd y llaw ei gwella'n llwyr. 11Roedden nhw'n wyllt gynddeiriog, a dyma nhw'n dechrau trafod gyda'i gilydd pa ddrwg y gallen nhw ei wneud i Iesu.Y Deuddeg Cynrychiolydd
(Mathew 10:1-4; Marc 3:13-19) 12Rhyw ddiwrnod aeth Iesu i ben mynydd i weddïo, a buodd wrthi drwy'r nos yn gweddïo ar Dduw. 13Pan ddaeth hi'n fore, galwodd ei ddisgyblion ato a dewis deuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol: 14Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus, 15Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon (oedd yn cael ei alw ‛y Selot‛), 16Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr.Iesu'n dysgu a iacháu
(Mathew 4:23-25) 17Yna aeth i lawr i le gwastad. Roedd tyrfa fawr o'i ddilynwyr gydag e, a nifer fawr o bobl eraill o bob rhan o Jwdea, ac o Jerwsalem a hefyd o arfordir Tyrus a Sidon yn y gogledd. 18Roedden nhw wedi dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. Cafodd y rhai oedd yn cael eu poeni gan ysbrydion drwg eu gwella, 19ac roedd pawb yn ceisio'i gyffwrdd am fod nerth yn llifo ohono ac yn eu gwella nhw i gyd.Bendithion a Melltithion
(Mathew 5:1-12) 20Yna trodd Iesu at ei ddisgyblion, a dweud: “Dych chi sy'n dlawd wedi'ch bendithio'n fawr,oherwydd mae Duw yn teyrnasu yn eich bywydau.
21Dych chi sy'n llwgu ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr,
oherwydd cewch chi wledd fydd yn eich bodloni'n llwyr ryw ddydd.
Dych chi sy'n crïo ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr,
oherwydd cewch chwerthin yn llawen ryw ddydd.
22Dych chi wedi'ch bendithio'n fawr pan fydd pobl yn eich casáu
a'ch cau allan a'ch sarhau, a'ch enwau'n cael eu pardduo
am eich bod yn perthyn i mi, Mab y Dyn.
23“Felly byddwch yn llawen pan mae'r pethau yma'n digwydd! Neidiwch o lawenydd! Achos mae gwobr fawr i chi yn y nefoedd. Cofiwch mai dyna'n union sut roedd hynafiaid y bobl yma yn trin y proffwydi. 24Ond gwae chi sy'n gyfoethog,
oherwydd dych chi eisoes wedi cael eich bywyd braf.
25Gwae chi sydd â hen ddigon i'w fwyta,
oherwydd daw'r dydd pan fyddwch chi'n llwgu.
Gwae chi sy'n chwerthin yn ddi-hid ar hyn o bryd,
oherwydd byddwch yn galaru ac yn crïo.
26Gwae chi sy'n cael eich canmol gan bawb,
oherwydd dyna roedd hynafiaid y bobl yma'n ei wneud i'r proffwydi ffug.
Caru Gelynion
(Mathew 5:38-48; 7:12a) 27“Dw i'n dweud wrthoch chi sy'n gwrando: Carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r bobl sy'n eich casáu chi, 28bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio chi, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin chi. 29Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar un foch, tro'r foch arall ato. Os ydy rhywun yn dwyn dy gôt, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd. 30Rho i bawb sy'n gofyn am rywbeth gen ti, ac os bydd rhywun yn cymryd rhywbeth piau ti, paid â'i hawlio yn ôl. 31Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi. 32“Pam dylech chi gael eich canmol am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny! 33Neu am wneud ffafr i'r rhai sy'n gwneud ffafr i chi? Mae ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny hefyd! 34Neu os dych chi'n benthyg i'r bobl hynny sy'n gallu'ch talu chi'n ôl, beth wedyn? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn fodlon benthyg i'w pobl eu hunain – ac yn disgwyl cael eu talu yn ôl yn llawn! 35Carwch chi eich gelynion. Gwnewch ddaioni iddyn nhw. Rhowch fenthyg iddyn nhw heb ddisgwyl cael dim byd yn ôl. Cewch chi wobr fawr am wneud hynny. Bydd hi'n amlwg eich bod yn blant i'r Duw Goruchaf, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n garedig i bobl anniolchgar a drwg. 36Rhaid i chi fod yn garedig, fel mae Duw eich tad yn garedig.Beirniadu pobl eraill
(Mathew 7:1-5) 37“Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo'ch barnu chi. Peidiwch eu condemnio nhw, a chewch chi mo'ch condemnio. Os gwnewch faddau i bobl eraill cewch chi faddeuant. 38Os gwnewch roi, byddwch yn derbyn. Cewch lawer iawn mwy yn ôl – wedi ei wasgu i lawr, a'i ysgwyd i wneud lle i fwy! Bydd yn gorlifo! Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi'n ôl i chi.” 39Yna dyma Iesu'n dyfynnu'r hen ddywediad: “‘Ydy dyn dall yn gallu arwain dyn dall arall?’ Nac ydy wrth gwrs! Bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd! 40Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro – ond ar ôl cael ei hyfforddi'n llawn mae'n dod yn debyg i'w athro. 41“Pam rwyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun!? 42Sut alli di ddweud, ‘Gyfaill, gad i mi dynnu'r sbecyn yna sydd yn dy lygad di,’ pan wyt ti'n methu'n lân â gweld dim am fod trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall.Coeden a'i ffrwyth
(Mathew 7:17-20; 12:34b-35) 43“Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael. 44Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. Dydy ffigys ddim yn tyfu ar ddrain, na grawnwin ar fieri. 45Mae pobl dda yn gwneud y daioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau, a phobl ddrwg yn gwneud y drygioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau nhw. Mae beth mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sydd yn eu calonnau nhw.Yr adeiladwr call a'r adeiladwr twp
(Mathew 7:24-27) 46“Pam dych chi'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ac eto ddim yn gwneud beth dw i'n ei ddweud? 47Gwna i ddangos i chi sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dw i'n ei ddweud. 48Maen nhw fel dyn sy'n mynd ati i adeiladu tŷ ac yn tyllu'n ddwfn i wneud yn siŵr fod y sylfeini ar graig solet. Pan ddaw llifogydd, a llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn sefyll am ei fod wedi ei adeiladu'n dda. 49Ond mae'r rhai sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ei ddweud yn debyg i ddyn sy'n adeiladu tŷ heb osod sylfaen gadarn iddo. Pan fydd llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn syrthio'n syth ac yn cael ei ddinistrio'n llwyr.”
Copyright information for
CYM
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024