Numbers 16:1-40
1Dyma Cora fab Its'har (oedd yn ŵyr i Cohath fab Lefi), gyda Dathan ac Abiram (meibion Eliab) ac On fab Peleth, o lwyth Reuben, yn codi i fyny a 2gwrthryfela yn erbyn Moses, gyda dau gant a hanner o arweinwyr eraill – dynion enwog. 3A dyma nhw'n mynd gyda'i gilydd i wynebu Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi mynd yn rhy bell. Mae'r bobl i gyd wedi eu cysegru – pob un ohonyn nhw! Ac mae'r Arglwydd gyda nhw. Pam ydych chi'n gwneud eich hunain yn bwysicach na gweddill pobl yr Arglwydd?” 4Pan glywodd Moses hyn dyma fe'n mynd ar ei wyneb ar lawr. 5Ac wedyn dyma fe'n dweud wrth Cora a'i ddilynwyr, “Yn y bore bydd yr Arglwydd yn dangos pwy ydy'r person mae e wedi ei ddewis a'i gysegru. Bydd yn gadael i'r person hwnnw fynd yn agos ato, i sefyll yn ei bresenoldeb. 6Felly, Cora a'r criw sydd gyda ti, dyma beth sydd raid i chi ei wneud: Cymryd padellau tân, 7eu tanio, a llosgi arogldarth arnyn nhw o flaen yr Arglwydd. Cawn weld wedyn pwy mae'r Arglwydd wedi ei ddewis a'i gysegru! Chi Lefiaid ydy'r rhai sydd wedi mynd yn rhy bell!” 8A dyma Moses yn dweud wrth Cora, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i! 9Ydy e ddim digon i chi fod Duw Israel wedi'ch dewis chi o blith holl bobl Israel i fod yn agos ato wrth i chi weithio yn y Tabernacl, ac i sefyll o flaen y bobl a'i gwasanaethu nhw? 10Mae e wedi rhoi'r gwaith sbesial yma i chi ac i'ch brodyr, y Lefiaid eraill. A nawr, dyma chi, eisiau bod yn offeiriaid hefyd! 11Yr Arglwydd ydy'r un dych chi wedi codi yn ei erbyn go iawn! Pwy ydy Aaron i chi gwyno amdano?” 12Yna dyma Moses yn galw am Dathan ac Abiram, meibion Eliab. Ond dyma nhw'n dweud, “Na, dŷn ni ddim am ddod. 13Nid peth bach ydy'r ffaith dy fod ti wedi dod â ni o wlad ffrwythlon, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, allan i'r anialwch yma i farw! A dyma ti nawr yn actio'r tywysog ac yn meddwl mai ti ydy'r bòs! 14Y gwir ydy, dwyt ti ddim wedi'n harwain ni i wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, na wedi rhoi tir a gwinllannoedd i ni. Wyt ti'n meddwl fod y dynion yma'n ddall neu rywbeth? Felly, dŷn ni ddim am ddod atat ti.” 15Roedd Moses wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n dweud wrth yr Arglwydd, “Paid derbyn eu hoffrymau nhw! Dw i ddim wedi cymryd cyn lleied ag un mul oddi arnyn nhw, na gwneud dim i frifo run ohonyn nhw!” 16Yna dyma Moses yn dweud wrth Cora, “Dos di a'r rhai sydd gyda ti i sefyll o flaen yr Arglwydd yfory – ti, a nhw, ac Aaron hefyd 17Dylai pob un ohonoch chi fynd gyda'i badell dân, rhoi arogldarth ynddi, a'i gyflwyno i'r Arglwydd: dau gant a hanner i gyd, a ti dy hun, ac Aaron – pawb gyda'i badell dân.” 18Felly dyma pawb yn mynd gyda'i badell, ac yna ei thanio a rhoi arogldarth arni, a sefyll wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, gyda Moses ac Aaron. 19Dyna lle roedd Cora a'i ddilynwyr i gyd yn sefyll yn erbyn Moses ac Aaron o flaen Pabell Presenoldeb Duw. A dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr Arglwydd. 20A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron: 21“Symudwch i ffwrdd oddi wrth y criw yma, i mi eu dinistrio nhw yn y fan a'r lle!” 22Ond dyma Moses ac Aaron yn plygu a'i hwynebau ar lawr, “O Dduw, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, wyt ti'n mynd i ddigio gyda pawb pan mae un dyn yn pechu?” 23A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, 24“Dywed wrth y bobl am symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram.” 25Yna dyma Moses yn codi ar ei draed a mynd at Dathan ac Abiram. A dyma arweinwyr Israel yn mynd gydag e. 26A dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Symudwch i ffwrdd oddi wrth bebyll y dynion drwg yma. Peidiwch cyffwrdd dim byd sydd piau nhw, rhag i chi gael eich ysgubo i ffwrdd gyda nhw am eu bod wedi pechu.” 27Felly dyma pawb yn symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram. Erbyn hyn roedd Dathan ac Abiram wedi dod allan, ac yn sefyll wrth fynedfa eu pebyll gyda'i gwragedd a'i plant a'i babis bach. 28A dyma Moses yn dweud, “Byddwch yn gwybod, nawr, mai'r Arglwydd sydd wedi fy anfon i wneud y pethau yma i gyd, ac mai nid fi gafodd y syniad. 29Os fydd y dynion yma'n marw'n naturiol fel pawb arall, dydy'r Arglwydd ddim wedi fy anfon i. 30Ond os fydd yr Arglwydd yn gwneud rhywbeth annisgwyl, a'r ddaear yn eu llyncu nhw a'i heiddo i gyd – os byddan nhw'n syrthio'n fyw i'w bedd – byddwch yn gwybod wedyn fod y dynion yma wedi sarhau yr Arglwydd!” 31Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma'r ddaear yn hollti oddi tanyn nhw. 32A dyma nhw a'i teuluoedd, a phobl Cora, a'i heiddo i gyd yn cael eu llyncu gan y tir. 33Dyma nhw, a popeth oedd ganddyn nhw, yn syrthio'n fyw i'r bedd. Wedyn dyma'r ddaear yn cau drostyn nhw, ac roedden nhw wedi diflannu. 34Wrth eu clywed nhw'n sgrechian, dyma bobl Israel, oedd o'u cwmpas, yn rhedeg am eu bywydau am eu bod ofn i'r ddaear eu llyncu nhw hefyd. 35A dyma dân yn dod oddi wrth yr Arglwydd a lladd y dau gant pum deg oedd yn llosgi arogldarth.Y padellau tân
36Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 37“Dywed wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i gasglu'r padellau o'r tân, am eu bod nhw'n gysegredig. Yna dywed wrtho am daflu'r tân oedd ynddyn nhw yn bell i ffwrdd. 38Roedd y dynion yma wedi pechu, ac fe gostiodd eu bywydau iddyn nhw. Mae'r padellau tân oedd ganddyn nhw yn gysegredig am eu bod wedi eu cyflwyno i'r Arglwydd. Felly rhaid eu morthwylio i wneud gorchudd metel i'r allor. Byddan nhw'n arwydd i rybuddio pobl Israel i beidio gwrthryfela.” 39Felly dyma Eleasar yr offeiriad yn casglu'r padellau oedd wedi eu defnyddio gan y rhai gafodd eu lladd yn y tân, a dyma nhw'n cael eu curo gyda morthwylion i wneud gorchudd i'r allor. 40Roedd y gorchudd yn arwydd i rybuddio pobl Israel na ddylai neb oedd ddim yn perthyn i deulu Aaron losgi arogldarth i'r Arglwydd. Neu byddai'r un peth yn digwydd iddyn nhw ac a ddigwyddodd i Cora a'i ddilynwyr. Felly cafodd beth ddwedodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneud.Aaron yn achub y bobl
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word

2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.

3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".

1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.

2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.

© STEPBible - 2024